Friday, May 1, 2020

Derri Joseph Lewis - Tri/o

Trwy ddefnyddio ei gerddoriaeth fel dull i ateb cwestiwn ymchwil, mae 'Tri/o' gan Derri Lewis yn ceisio ateb y cwestiwn hyn: A all cyfrifiadur dysgu i fyrfyfyrio yn yr un ffordd a bodau dynol? Profiad cyngerdd ar gyfer pianydd sy'n byrfyfyrio, llais, ac offerynnau electroneg, mae 'Tri/o' yn cymysgu'r llinell rhwng greddf dynol a deallusrwydd artiffisial.

Wedi'i ysbrydoli gan gwaith blaengar Helmut Lachenmann, mae Derri yn defnyddio dull anghonfensiynol i chwarae offeryn, ac ynlle pryderu dros rythm ac alaw, mae'n rhoi'r ffocws ar syniau gwahanol mae offeryn yn gallu creu. Crafu a bwrw llinynnau mewnol y piano, clicio, hisian ac ynganu sillafau staccato yw rhai o'r technegau sy'n cael ei ddefnyddio i gyflawni'r awyrgylch annaearol sydd yn y darn yma.

Meddai Derri, "Mae wedi bod yn ddiddorol iawn i dynnu'r agweddau gwahanol y cerddoriaeth ar wahan - er mwyn raglenni'r cyfrifiadur i ddadansoddi, deall ac yn y diwedd cyfansoddi ei gerddoriaeth ei hun, dwi wedi gorfod meddwl yn hir am beth yw'r elfennau mwya pwysig o berfformio, er mwyn i'r broses teimlo fel byrfyfyr go iawn. Mae hefyd bach yn ofnus i roi'r pwer hyn i gyfrifiadur...ond dwi ddim yn poeni, dwi ddim yn meddwl bydd AI yn cymryd dros y neuadd gyngerdd. Er hyn, roedd yna fomentau o fewn rihyrsals pan roedd y cyfrifiadur yn fy synnu i. Dwi'n meddwl bod hwn yn rhoi'r synnwyr o ddigymelldeb i'r perfformiad hyn o 'Tri/o' sy'n bwysig iawn mewn unrhyw byfyfyr da."



Gwasgwch yma i wrando ar Radio Awyrgylch. Mi fydd 'Tri/o' Derri yn chwarae ar ddydd Gwener Mai 1 8pm. Peidiwch a'i cholli!

Madeleine Brooks, Natalie Roe ac Ella Penn - The Imposter

Mae monolog mewnol myfyrwr sy'n amheuol a dinistriol yn trawsnewid i gymeriad real a dirieithol. Sut allwch dianc negyddiaeth eich meddwl os mae'n dod yn fyw o'ch blaen? Mewn cydweithrediad rhwng Cyfarwyddwr Opera MA a librettydd, Madeleine Brooks, a chyfansoddwyr CBCDC, Natalie Roe ac Ella Penn, mae 'The Imposter' yn opera byr sy'n archwilio'r rhinweddau dinistriol o Syndrome Impostor a'r effaith mae'n gallu cael ar fywyd pob dydd.


Er nad yw'r naratif yn hollol hunangofiannol, dywedodd Natalie bod y tueddiadau amheus sy'n dod gyda Syndrome Impostor, "yn enwedig mewn Coleg celfyddydau, yn eitha cyffredin. Dyna'n union pam rydyn ni'n dod ag ymwybyddiaeth iddo." Yn ychwanegu at hyn, meddai Madeleine, "Fe wnes i feddwl am ysgrifennu o amgylch y pwnc yma era i ffrind yn y Coleg dweud i mi, "Dwi'n meddwl bod pawb gyda Syndrome Imposter nes bo' ni'n digon llwyddiannus i beidio." Fe wnes i wneud bach o ddarllen o amgylch y pwnc, a gwylio rhai TED talks, a wedyn ro'n i 'di dysgu 'r strwythr ar gyfer yr opera. Roedd y cymeriadau syml wedi'i ysbrydoli gan ddyfyniad Tina Fey; meddai hi, 'mae'r harddwch o Syndrome Impostor yn y ffordd rydych chi wastad yn newid rhwng ego eithafol a theimlad hollol o: 'Dwi'n twyll! O Dduw, mae nhw'n mynd i fy nal! Dwi'n twyll!'

Yn gwyl gwreiddiol Awyrgylch, roedd 'The Imposter' i fod i gael ei berfformio ar lwyfan yn Cyntedd Carne'r Coleg, ond wedi gwynebu a'r sialens i ailfeddwl am sut i gyflwyno'r prosiect terfynol, a sut i newid y darn i ffurf arlein, roedd meddyliau creadigol y triawd yma wedi gweithio'n gloi i feddwl am opsiynau arall. Fel canlyniad, allwch wrando ar 'The Imposter' ar Radio Awyrgylch ar Sadwrn 2 Mai 2:30pm, ac yn fuan, fe fydd yn bosib gwylio cynnyrch terfynol o film gyda animeiddio ynddi. Mi fydd hwn yn cael ei ryddhau yn fuan ar ol gwyl Awyrgylch! Gwyliwch mas amdani!



Cliciwch yma i wrando ar Radio Awyrgylch


Thursday, April 30, 2020

Fleur Snow a Zack Wilkins - How to Argue with your Spouse

Mae Fleur Snow, ein Cyfarwyddwr Opera MA, a Zack Wilkins, cyfansoddwr CBCDC, yn darparu mewnwelediad i'r broses greadigol o’i opera newydd, ‘How to Argue with your Spouse,’ mewn ffurf dyddiadaur. Darllenwch ymlaen wrth iddynt dadflino’i brosiect nhw, o sialens Zack i baru, "libretto swrrealaidd gyda sgôr sydd hefyd yn digon swrreal," i "sialens i ffeindio digon o le," a sut tyfodd a datblygodd y darn.


Dyddiadur Prosiect gan Fleur Snow (Cyfarwyddwr Opera MA)

Wythnos 1: Roedd ein sesiwn gyntaf gyda'n gilydd yn cynnwys math o 'speed-dating' er mwyn i'r gyfarwyddwyr opera gallu cwrdd a'r cyfansoddwyr. Roedd rhaid i ni dod a stori, ffeil sŵn, a llun, ac wedyn rhannu ein syniadau arnynt. Fe sylweddolodd Zack a finne ein bod wedi cwrdd ar breswyliad cyfansoddi gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru cwpl o flynyddoed yn gynharach. Roedd hwn, a'r ffaith bod y ddau ohonon ni'n hoffi pethau eitha abswrd, yn golygu ein bod ni'n dod ymlaen fel tŷ ar dân!


Wythnos 2: Dyma lle dechreuon ni ein cyfres o 'gyfarfodau cyntedd' wythnosol. Am awr pob wythnos, byddwn yn yfed te a siarad am unrhyw beth a phopeth oedd yn ein ysbrydoli. I ddechrau, rhannon ni ein darnau blaenorol a chyfredol, a wedyn fe wnaethon ni cynllun am y sesiynau a oedd i ddilyn.


Wythnos 3: Penderfynais bod angen i ni sylfaeni ein sgyrsiau o gwmpas thema, yn dechrau gyda syniad, dod lan ag ymatebion creadigol iddo, a wedyn gweld lle bu'n arwain ni. Roedd y cyntaf o rhain yn 'gwrthdaro', a gwarion ni awr hapus yn breuddwydio i fyny opera 15 munud wedi'i selio ar gwrthdaro rhwng dau gymeriad.


Wythnos 4: Yr wythnos hon, dewison ni'r gair 'rhamant,' thema allweddol mewn opera, a dechreuon ni gweithio arni. Siaradon ni am beth fydde'n digwydd os roedd cymeriadau rhamantus o operâu gwahanol yn cwrdd ei gilydd yn y cyntedd cyn i'r opera dechrau...


Wythnos 5: Yn ystod ein wythnos archwiliadol olaf, dewison ni'r thema o wleidyddiaeth a gweithio allan beth fysen ni'n ei wneud os roedd rhywun yn cyflwyno y thema yma i ni fel rhagosodiad ar gyfer opera byr. Roedd hwn yn ystod y cyfnod a oedd yn arwain i fyny at yr Etholiad Cyffredinol; ac er bod yr ymarfer yn un bleserus, penderfynon ni bod hi'n gormod o risg, felly gadwon ni fo yno.


Wythnos 6: Roedd hyn yn drobwynt i'r holl brosiect. Cawsom ein gwahodd i weithdy gyda Mike Pearson o National Theatre Wales, diolch i gefnogaeth y Carne Trust. Ar ôl cyflwyniad a wnaeth agor pob drws a chywthu'r cobwebs i ffwrdd o'r ffordd blaenorol roeddem ni'n gweld theatr, cawsom dasg i roi pethau i fewn i weithred. Yn ystod egwyl yn y gweithdy, fe wnaeth Zack a finne cael paned arall o de (thema cyffredin!) a dechrau jocan am syniad ar gyfer opera wedi'i selio o gwmpas drysiau cylchdroi'r cyntedd. Rhywsut, tyfodd y syniad yma ac, o'r diwedd, roeddem ni wedi ffeindio ein 'niche.' Fe genwyd 'How to Argue with your Spouse!'


Wythnos 7-9: Nawr bo' ni yng nghanol y prosiect, roedd pob cyfarfod yn cael ei wario yn arbrofi gyda syniadau a chynlluniau, nawr yn trio gwthio'r syniad i'r pen pellach, wedyn torri fe i lawr i weld beth oedd ar ôl. Siaradon ni lot am byrfyfyrio, arddulliau gwahanol, ystradebau opera a sut i chwarae o gwmpas gyda nhw. Cawsom lot o hwyl yn chwarae o gwmpas gyda syniadau gwahanol.


Wythnos 10: Roeddem ni wedi siarad lot, rhannu llawer o syniadau, gwario llawer o amser yn yfed te a cherdded i'r parc tu fas, ond nawr roedd yn amser roi pen i bapur a ysgrifennu'r libretto. Roedd y broses yn eitha ddi-boen ar ôl tri mis o baratoi, ac o fewn wythnos, danfonais drafft cyntaf i Zack.


Mewn gwirionedd, roedd dau libretto - un i gael ei ganu yn uchel, yn cynnwys chwe gair mewn tri pâr o wrthgyferbyniadau, a'r llall mewn cyfeiliant tawel i'r gweithred. Y thema o Act 1 (IN/OUT) oedd y drysau cylchdroi, roedd Act 2 (UP/DOWN) am gymryd lle o fewn a thu allan i'r lifft, ac roedd Act 3 (OVER/UNDER) yn cynnwys balconi'r cyntedd. Rhywle ar y ffordd, roeddem wedi cael gafael ar bedwarawd sacsoffon ac arweinydd band pres, ac roedd rhain i gyd yn rhan mawr o'r gweithred, fel y pianydd. Gwasgon ni lot o hwyl ac abswrd i mewn i 15 munud, danfonon ni y libretto i'r tiwtors, Martin Constantine a John Hardy, a gofynnon am ganiatâd i gynnyddu i'r lefel nesaf. Roedden nhw'n hoffi'r darn ac felly...bant â ni!


Wythnos 11+: Dros gwyliau'r Nadolig, fe wnaeth Zack dechrau cyfansoddi a gweithio ar ffyrdd gwahanol i roi ein syniadau i mewn i ffurf cerddorol. Ond, pan ddaethon ni yn ôl i Coleg, sylweddolon ni roedd rhywbeth o'i le, ac felly fe ddechreuon ni cwrdd pob wythnos eto i drafod beth allwn ni ei wneud. Yn gyntaf, dros paned o de, gweithion ni mas beth oedd o'i le yn y diweddglo. O hyn, fe ddechreuon ni treialu nifer o syniadau gwahanol eto. Trwy'r rhyddid yma, o'r diwedd, fe penderfynon ni ar ddiweddglo a oedd yn gweithio i'r ddau ohonon ni. Roedden ni'n barod i ddechrau'r rhan olaf o rihyrsals pan ddaeth y Coronafeirws.






Tiwnwch i mewn i Radio Awyrgylch ar Sul 3 Mai, 12pm 

Wednesday, April 29, 2020

Joshua Yardy - Blumin 'Ek


Wedi'i wreiddio o fewn archwilio cysylltiadau teuluol, mae Joshua Yardy yn gyflwyno 'Blumin 'Ek,' darluniad unigryw o bortread teulu, fel rhan o ein gŵyl Awyrgylch. Mewn ymasiad prysur o roc, jazz, cerddoriaeth acwstig a cherddorfaol, mae Joshua yn gyflwyno ei deulu, ac yn dangos personoliaeth a hiwmor pob person, trwy ddarnau bach o sgwrs wedi'i recordio trwy nodiadau llais. Mewn geiriau Joshua ei hun, mae'r darn dyrchafol yma'n, "wallgof...doniol...nonsens conglomerate!" Ni allwn aros i'w glywed!Wedi gwario blwyddyn cyfan yn gweithio arni, a gyda bron i saith awr o ddefnydd wedi'i recordio a'i gynllunio'n ofalus, 
mae Joshua wedi datblygu symlrwydd nodiad llais 
i lefelau symffonig. Yn disgrifio'i broses creadigol, dywedodd, "fe wnes i ddadansoddi'r cynnwys cerddorol o bob brawddeg o bob person. Felly, fe wnes i gymryd y metr o sut roedd rhywun yn siarad, neu'r rythm a'r pitch o bob person, a hyd yn oed mor agos i'r llofnod allwedd a oedd yn bosib, a trwy hwn wnes i greu darn ar gyfer pob aelod o'r teulu."

Ond, o dan y cynllunio manwl a'r trefniant ofalus, mae Joshua hefyd eisiau i bobl mwynhau ei gerddoriaeth! "Yn gerddorol, dwi'n teimlo bod y darn yn dangos fy hiwmor, ac mae'n teimlo fel fi. Ac i ddweud y gwir, dwi eisiau pobl i chwerthin. Mae'r holl beth i fod yn hwyl a dwi jyst eisiau i chi chwerthin."

Eisiau codi eich hwyliau? Cliciwch yma i wrando ar 'Blumin 'Ek' gan Joshua Yardy.

Benjamin Wilkinson - Tales of Humanity


Beth os roedd eich breuddwyd yn realiti? Beth os roedd eich realiti yn freuddwyd? A fyddech chi'n gwybod? A fyddech chi'n beirniadu rhywun arall am feddwl yn wahanol? Gyda ffocws dirfodol ar berspectif bodau dynol, mae Benjamin Wilkinson yn cwestiynu'r dibynadwyedd o freuddwydion, chwedlau a hunllefau yn 'Tales of Humanity,' sy'n cael ei ymddangosiad cyntaf yng ngŵyl Awyrgylch. Trwy ddefnyddio araith, barddoniaeth a n acwstig ac electroneg, mae Benjamin yn dweud bod ei gerddoriaeth yn cwestiynu'r "mathau gwahanol o straeon a sut mae rhain yn gallu bod yn rhywbeth mae rhywun wedi byw, a sut all freuddwyd rhywun bod yn realiti ar gyfer pobl eraill." Byddwch yn barod i agor eich meddyliau!



Wrth drafod pwrpas ei brosiect, disgrifiodd Benjamin y gobaith y bu'r gynulleidfa'n gwrando i 'Tales of Humanity' o le bersonol a chofleidio'r ymwybyddiaeth mae ei gerddoriaeth yn ysbrydoli. Dywedodd, "Dwi eisiau pobl i eistedd yna ac archwilio stori nhw eu hunain. Holl bwynt y darn yw i annog pobl i deall bod pawb yn byw mewn llyfr eu hun, maent yn darllen llyfr eu hyn, ac mae llawer o lyfrau gwahanol yn bodoli. Mae'n gyfyngedig i fyw eich bywyd heb wrando, deall, archwilio ac edrych sut mae rhywbeth yr ydych chi'n ei deall fel chwedl yn golygu rhywbeth hollo wahanol i berson arall."



Mae'r ymagwedd sensitif a chraff i psyche dynol yn dod o'i fwydr gyda iechyd meddwl. Dywedood Benjamin, "Fe wnes i ddewis i astudio cyfansoddi pedwar mlynedd yn ôl oherwydd mae'n dod o lle gyfannol iawn i fi. Mae ysgrifennu cerddoriaeth gyda sylfaen mewn mynegiant emosiynol i fi. Fe wnes i frwydro gyda fy iechyd meddwl...ac roedd yn bwysig iawn i fi gallu mynegi fy hun...roedd ysgrifennu cerddoriaeth yn ffordd dda iawn o wneud hyn. Ers i fi fod yn arddegwr, mae cerddoriaeth wedi bod yn ffordd i fi adrodd fy stori."


Peidiwch a cholli 'Tales for Humanity' gan Benjamin Wilkinson, gyda'i bremiere ar ddydd Sul 3 Mai am 5pm.
Cliciwch yma i wrando!

Tuesday, April 28, 2020

Alistair Hickman - Dataflux

Mae Alistair Hickman yn gyfuno ei dalent mewn cyfansoddi gyda'i ddiddordeb mewn economeg o fewn ei brosiect newydd, Dataflux, sy'n chwarae am y tro cyntaf yn Awyrgylch. Trwy ddefnyddio data fel cerddoriaeth er mwyn cyfleu gwybodaeth am ein economi, mae Alistair yn bwriadu defnyddio'i gerddoriaeth "i asesu os yw data yn offeryn defnyddiol neu beidio." Mae'n sicr y bydd hyn yn ymddangosiad cyntaf hynod o ddiddorol!

Mae Dataflux yn gwthio ffiniau cerddoriaeth traddodiadol ac mae'n archwilio'r ffyrdd gwahanol all 'sŵn' cael ei ddefnyddio fel cerddoriaeth. Pan yn disgrifio'r broses creadigol, fe wnaeth Alistair ei gwneud yn glir ei fod wedi tynnu ysbrydoliaeth o amrywiaeth eang o genres a chyfansoddwyr. Dywedodd, "roedd y cerddoriaeth a wnaeth f'ysbrydoli yn ystod y broses creadigol yn amrywio o gerddoriaeth cynnar cyfansoddwyr concrète, i gyfansoddwyr ffilm fel Thomas Newman, a'r band metal, Tool." Mae Dataflux yn enghraifft gwych o'r amrywiaeth cerddorol mae Awyrgylch yn annog!

Pan gofynnon ni am ei hoff gyfansoddwr, yn unol ag arddull a chyd-destun ei ddarn, dywedodd, "os edrychwn ni ar y data, mae'r artist dwi'n ei wrando ar y fwyaf ar Spotify yw Thomas Newman. Felly, oherwydd bod data yn offeryn defnyddiol, mae'n rhaid i fi ei ddewis." Dyna i chi enghraifft o fywyd yn ddynwared celf!


Peidiwch ag anghofio i diwno i fewn i bremiere Dataflux gan Alistair ar ddydd Sul Mai 3 am 12pm!
Cliciwch yma i wrando!


Gwrandewch eto...

Wedi colli unrhyw beth? Gwrandewch eto ar y rhaglenni a ddarlledwyd dros benwythnos Gŵyl Awyrgylch: AmserJazzTime The Nat & Jake ...