Thursday, April 30, 2020

Fleur Snow a Zack Wilkins - How to Argue with your Spouse

Mae Fleur Snow, ein Cyfarwyddwr Opera MA, a Zack Wilkins, cyfansoddwr CBCDC, yn darparu mewnwelediad i'r broses greadigol o’i opera newydd, ‘How to Argue with your Spouse,’ mewn ffurf dyddiadaur. Darllenwch ymlaen wrth iddynt dadflino’i brosiect nhw, o sialens Zack i baru, "libretto swrrealaidd gyda sgôr sydd hefyd yn digon swrreal," i "sialens i ffeindio digon o le," a sut tyfodd a datblygodd y darn.


Dyddiadur Prosiect gan Fleur Snow (Cyfarwyddwr Opera MA)

Wythnos 1: Roedd ein sesiwn gyntaf gyda'n gilydd yn cynnwys math o 'speed-dating' er mwyn i'r gyfarwyddwyr opera gallu cwrdd a'r cyfansoddwyr. Roedd rhaid i ni dod a stori, ffeil sŵn, a llun, ac wedyn rhannu ein syniadau arnynt. Fe sylweddolodd Zack a finne ein bod wedi cwrdd ar breswyliad cyfansoddi gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru cwpl o flynyddoed yn gynharach. Roedd hwn, a'r ffaith bod y ddau ohonon ni'n hoffi pethau eitha abswrd, yn golygu ein bod ni'n dod ymlaen fel tŷ ar dân!


Wythnos 2: Dyma lle dechreuon ni ein cyfres o 'gyfarfodau cyntedd' wythnosol. Am awr pob wythnos, byddwn yn yfed te a siarad am unrhyw beth a phopeth oedd yn ein ysbrydoli. I ddechrau, rhannon ni ein darnau blaenorol a chyfredol, a wedyn fe wnaethon ni cynllun am y sesiynau a oedd i ddilyn.


Wythnos 3: Penderfynais bod angen i ni sylfaeni ein sgyrsiau o gwmpas thema, yn dechrau gyda syniad, dod lan ag ymatebion creadigol iddo, a wedyn gweld lle bu'n arwain ni. Roedd y cyntaf o rhain yn 'gwrthdaro', a gwarion ni awr hapus yn breuddwydio i fyny opera 15 munud wedi'i selio ar gwrthdaro rhwng dau gymeriad.


Wythnos 4: Yr wythnos hon, dewison ni'r gair 'rhamant,' thema allweddol mewn opera, a dechreuon ni gweithio arni. Siaradon ni am beth fydde'n digwydd os roedd cymeriadau rhamantus o operâu gwahanol yn cwrdd ei gilydd yn y cyntedd cyn i'r opera dechrau...


Wythnos 5: Yn ystod ein wythnos archwiliadol olaf, dewison ni'r thema o wleidyddiaeth a gweithio allan beth fysen ni'n ei wneud os roedd rhywun yn cyflwyno y thema yma i ni fel rhagosodiad ar gyfer opera byr. Roedd hwn yn ystod y cyfnod a oedd yn arwain i fyny at yr Etholiad Cyffredinol; ac er bod yr ymarfer yn un bleserus, penderfynon ni bod hi'n gormod o risg, felly gadwon ni fo yno.


Wythnos 6: Roedd hyn yn drobwynt i'r holl brosiect. Cawsom ein gwahodd i weithdy gyda Mike Pearson o National Theatre Wales, diolch i gefnogaeth y Carne Trust. Ar ôl cyflwyniad a wnaeth agor pob drws a chywthu'r cobwebs i ffwrdd o'r ffordd blaenorol roeddem ni'n gweld theatr, cawsom dasg i roi pethau i fewn i weithred. Yn ystod egwyl yn y gweithdy, fe wnaeth Zack a finne cael paned arall o de (thema cyffredin!) a dechrau jocan am syniad ar gyfer opera wedi'i selio o gwmpas drysiau cylchdroi'r cyntedd. Rhywsut, tyfodd y syniad yma ac, o'r diwedd, roeddem ni wedi ffeindio ein 'niche.' Fe genwyd 'How to Argue with your Spouse!'


Wythnos 7-9: Nawr bo' ni yng nghanol y prosiect, roedd pob cyfarfod yn cael ei wario yn arbrofi gyda syniadau a chynlluniau, nawr yn trio gwthio'r syniad i'r pen pellach, wedyn torri fe i lawr i weld beth oedd ar ôl. Siaradon ni lot am byrfyfyrio, arddulliau gwahanol, ystradebau opera a sut i chwarae o gwmpas gyda nhw. Cawsom lot o hwyl yn chwarae o gwmpas gyda syniadau gwahanol.


Wythnos 10: Roeddem ni wedi siarad lot, rhannu llawer o syniadau, gwario llawer o amser yn yfed te a cherdded i'r parc tu fas, ond nawr roedd yn amser roi pen i bapur a ysgrifennu'r libretto. Roedd y broses yn eitha ddi-boen ar ôl tri mis o baratoi, ac o fewn wythnos, danfonais drafft cyntaf i Zack.


Mewn gwirionedd, roedd dau libretto - un i gael ei ganu yn uchel, yn cynnwys chwe gair mewn tri pâr o wrthgyferbyniadau, a'r llall mewn cyfeiliant tawel i'r gweithred. Y thema o Act 1 (IN/OUT) oedd y drysau cylchdroi, roedd Act 2 (UP/DOWN) am gymryd lle o fewn a thu allan i'r lifft, ac roedd Act 3 (OVER/UNDER) yn cynnwys balconi'r cyntedd. Rhywle ar y ffordd, roeddem wedi cael gafael ar bedwarawd sacsoffon ac arweinydd band pres, ac roedd rhain i gyd yn rhan mawr o'r gweithred, fel y pianydd. Gwasgon ni lot o hwyl ac abswrd i mewn i 15 munud, danfonon ni y libretto i'r tiwtors, Martin Constantine a John Hardy, a gofynnon am ganiatâd i gynnyddu i'r lefel nesaf. Roedden nhw'n hoffi'r darn ac felly...bant â ni!


Wythnos 11+: Dros gwyliau'r Nadolig, fe wnaeth Zack dechrau cyfansoddi a gweithio ar ffyrdd gwahanol i roi ein syniadau i mewn i ffurf cerddorol. Ond, pan ddaethon ni yn ôl i Coleg, sylweddolon ni roedd rhywbeth o'i le, ac felly fe ddechreuon ni cwrdd pob wythnos eto i drafod beth allwn ni ei wneud. Yn gyntaf, dros paned o de, gweithion ni mas beth oedd o'i le yn y diweddglo. O hyn, fe ddechreuon ni treialu nifer o syniadau gwahanol eto. Trwy'r rhyddid yma, o'r diwedd, fe penderfynon ni ar ddiweddglo a oedd yn gweithio i'r ddau ohonon ni. Roedden ni'n barod i ddechrau'r rhan olaf o rihyrsals pan ddaeth y Coronafeirws.






Tiwnwch i mewn i Radio Awyrgylch ar Sul 3 Mai, 12pm 

No comments:

Post a Comment

Gwrandewch eto...

Wedi colli unrhyw beth? Gwrandewch eto ar y rhaglenni a ddarlledwyd dros benwythnos Gŵyl Awyrgylch: AmserJazzTime The Nat & Jake ...