Friday, May 1, 2020

Derri Joseph Lewis - Tri/o

Trwy ddefnyddio ei gerddoriaeth fel dull i ateb cwestiwn ymchwil, mae 'Tri/o' gan Derri Lewis yn ceisio ateb y cwestiwn hyn: A all cyfrifiadur dysgu i fyrfyfyrio yn yr un ffordd a bodau dynol? Profiad cyngerdd ar gyfer pianydd sy'n byrfyfyrio, llais, ac offerynnau electroneg, mae 'Tri/o' yn cymysgu'r llinell rhwng greddf dynol a deallusrwydd artiffisial.

Wedi'i ysbrydoli gan gwaith blaengar Helmut Lachenmann, mae Derri yn defnyddio dull anghonfensiynol i chwarae offeryn, ac ynlle pryderu dros rythm ac alaw, mae'n rhoi'r ffocws ar syniau gwahanol mae offeryn yn gallu creu. Crafu a bwrw llinynnau mewnol y piano, clicio, hisian ac ynganu sillafau staccato yw rhai o'r technegau sy'n cael ei ddefnyddio i gyflawni'r awyrgylch annaearol sydd yn y darn yma.

Meddai Derri, "Mae wedi bod yn ddiddorol iawn i dynnu'r agweddau gwahanol y cerddoriaeth ar wahan - er mwyn raglenni'r cyfrifiadur i ddadansoddi, deall ac yn y diwedd cyfansoddi ei gerddoriaeth ei hun, dwi wedi gorfod meddwl yn hir am beth yw'r elfennau mwya pwysig o berfformio, er mwyn i'r broses teimlo fel byrfyfyr go iawn. Mae hefyd bach yn ofnus i roi'r pwer hyn i gyfrifiadur...ond dwi ddim yn poeni, dwi ddim yn meddwl bydd AI yn cymryd dros y neuadd gyngerdd. Er hyn, roedd yna fomentau o fewn rihyrsals pan roedd y cyfrifiadur yn fy synnu i. Dwi'n meddwl bod hwn yn rhoi'r synnwyr o ddigymelldeb i'r perfformiad hyn o 'Tri/o' sy'n bwysig iawn mewn unrhyw byfyfyr da."



Gwasgwch yma i wrando ar Radio Awyrgylch. Mi fydd 'Tri/o' Derri yn chwarae ar ddydd Gwener Mai 1 8pm. Peidiwch a'i cholli!

No comments:

Post a Comment

Gwrandewch eto...

Wedi colli unrhyw beth? Gwrandewch eto ar y rhaglenni a ddarlledwyd dros benwythnos Gŵyl Awyrgylch: AmserJazzTime The Nat & Jake ...