Tuesday, April 28, 2020

Alistair Hickman - Dataflux

Mae Alistair Hickman yn gyfuno ei dalent mewn cyfansoddi gyda'i ddiddordeb mewn economeg o fewn ei brosiect newydd, Dataflux, sy'n chwarae am y tro cyntaf yn Awyrgylch. Trwy ddefnyddio data fel cerddoriaeth er mwyn cyfleu gwybodaeth am ein economi, mae Alistair yn bwriadu defnyddio'i gerddoriaeth "i asesu os yw data yn offeryn defnyddiol neu beidio." Mae'n sicr y bydd hyn yn ymddangosiad cyntaf hynod o ddiddorol!

Mae Dataflux yn gwthio ffiniau cerddoriaeth traddodiadol ac mae'n archwilio'r ffyrdd gwahanol all 'sŵn' cael ei ddefnyddio fel cerddoriaeth. Pan yn disgrifio'r broses creadigol, fe wnaeth Alistair ei gwneud yn glir ei fod wedi tynnu ysbrydoliaeth o amrywiaeth eang o genres a chyfansoddwyr. Dywedodd, "roedd y cerddoriaeth a wnaeth f'ysbrydoli yn ystod y broses creadigol yn amrywio o gerddoriaeth cynnar cyfansoddwyr concrète, i gyfansoddwyr ffilm fel Thomas Newman, a'r band metal, Tool." Mae Dataflux yn enghraifft gwych o'r amrywiaeth cerddorol mae Awyrgylch yn annog!

Pan gofynnon ni am ei hoff gyfansoddwr, yn unol ag arddull a chyd-destun ei ddarn, dywedodd, "os edrychwn ni ar y data, mae'r artist dwi'n ei wrando ar y fwyaf ar Spotify yw Thomas Newman. Felly, oherwydd bod data yn offeryn defnyddiol, mae'n rhaid i fi ei ddewis." Dyna i chi enghraifft o fywyd yn ddynwared celf!


Peidiwch ag anghofio i diwno i fewn i bremiere Dataflux gan Alistair ar ddydd Sul Mai 3 am 12pm!
Cliciwch yma i wrando!


No comments:

Post a Comment

Gwrandewch eto...

Wedi colli unrhyw beth? Gwrandewch eto ar y rhaglenni a ddarlledwyd dros benwythnos Gŵyl Awyrgylch: AmserJazzTime The Nat & Jake ...