Beth os roedd eich breuddwyd yn realiti? Beth os roedd eich realiti yn freuddwyd? A fyddech chi'n gwybod? A fyddech chi'n beirniadu rhywun arall am feddwl yn wahanol? Gyda ffocws dirfodol ar berspectif bodau dynol, mae Benjamin Wilkinson yn cwestiynu'r dibynadwyedd o freuddwydion, chwedlau a hunllefau yn 'Tales of Humanity,' sy'n cael ei ymddangosiad cyntaf yng ngŵyl Awyrgylch. Trwy ddefnyddio araith, barddoniaeth a sŵn acwstig ac electroneg, mae Benjamin yn dweud bod ei gerddoriaeth yn cwestiynu'r "mathau gwahanol o straeon a sut mae rhain yn gallu bod yn rhywbeth mae rhywun wedi byw, a sut all freuddwyd rhywun bod yn realiti ar gyfer pobl eraill." Byddwch yn barod i agor eich meddyliau!
Wrth drafod pwrpas ei brosiect, disgrifiodd Benjamin y gobaith y bu'r gynulleidfa'n gwrando i 'Tales of Humanity' o le bersonol a chofleidio'r ymwybyddiaeth mae ei gerddoriaeth yn ysbrydoli. Dywedodd, "Dwi eisiau pobl i eistedd yna ac archwilio stori nhw eu hunain. Holl bwynt y darn yw i annog pobl i deall bod pawb yn byw mewn llyfr eu hun, maent yn darllen llyfr eu hyn, ac mae llawer o lyfrau gwahanol yn bodoli. Mae'n gyfyngedig i fyw eich bywyd heb wrando, deall, archwilio ac edrych sut mae rhywbeth yr ydych chi'n ei deall fel chwedl yn golygu rhywbeth hollo wahanol i berson arall."
Mae'r ymagwedd sensitif a chraff i psyche dynol yn dod o'i fwydr gyda iechyd meddwl. Dywedood Benjamin, "Fe wnes i ddewis i astudio cyfansoddi pedwar mlynedd yn ôl oherwydd mae'n dod o lle gyfannol iawn i fi. Mae ysgrifennu cerddoriaeth gyda sylfaen mewn mynegiant emosiynol i fi. Fe wnes i frwydro gyda fy iechyd meddwl...ac roedd yn bwysig iawn i fi gallu mynegi fy hun...roedd ysgrifennu cerddoriaeth yn ffordd dda iawn o wneud hyn. Ers i fi fod yn arddegwr, mae cerddoriaeth wedi bod yn ffordd i fi adrodd fy stori."
Peidiwch a cholli 'Tales for Humanity' gan Benjamin Wilkinson, gyda'i bremiere ar ddydd Sul 3 Mai am 5pm.
Cliciwch yma i wrando!
No comments:
Post a Comment