Wednesday, April 29, 2020

Joshua Yardy - Blumin 'Ek


Wedi'i wreiddio o fewn archwilio cysylltiadau teuluol, mae Joshua Yardy yn gyflwyno 'Blumin 'Ek,' darluniad unigryw o bortread teulu, fel rhan o ein gŵyl Awyrgylch. Mewn ymasiad prysur o roc, jazz, cerddoriaeth acwstig a cherddorfaol, mae Joshua yn gyflwyno ei deulu, ac yn dangos personoliaeth a hiwmor pob person, trwy ddarnau bach o sgwrs wedi'i recordio trwy nodiadau llais. Mewn geiriau Joshua ei hun, mae'r darn dyrchafol yma'n, "wallgof...doniol...nonsens conglomerate!" Ni allwn aros i'w glywed!Wedi gwario blwyddyn cyfan yn gweithio arni, a gyda bron i saith awr o ddefnydd wedi'i recordio a'i gynllunio'n ofalus, 
mae Joshua wedi datblygu symlrwydd nodiad llais 
i lefelau symffonig. Yn disgrifio'i broses creadigol, dywedodd, "fe wnes i ddadansoddi'r cynnwys cerddorol o bob brawddeg o bob person. Felly, fe wnes i gymryd y metr o sut roedd rhywun yn siarad, neu'r rythm a'r pitch o bob person, a hyd yn oed mor agos i'r llofnod allwedd a oedd yn bosib, a trwy hwn wnes i greu darn ar gyfer pob aelod o'r teulu."

Ond, o dan y cynllunio manwl a'r trefniant ofalus, mae Joshua hefyd eisiau i bobl mwynhau ei gerddoriaeth! "Yn gerddorol, dwi'n teimlo bod y darn yn dangos fy hiwmor, ac mae'n teimlo fel fi. Ac i ddweud y gwir, dwi eisiau pobl i chwerthin. Mae'r holl beth i fod yn hwyl a dwi jyst eisiau i chi chwerthin."

Eisiau codi eich hwyliau? Cliciwch yma i wrando ar 'Blumin 'Ek' gan Joshua Yardy.

No comments:

Post a Comment

Gwrandewch eto...

Wedi colli unrhyw beth? Gwrandewch eto ar y rhaglenni a ddarlledwyd dros benwythnos Gŵyl Awyrgylch: AmserJazzTime The Nat & Jake ...