Yn siarad am Awyrgylch a gollwng 'Bad Taste', meddai Felix, "dwi'n edrych ymlaen i weld gwaith pawb arall, achos dwi'n gweld pawb pob dydd, ond dwi byth yn gweld beth mae nhw'n ei wneud, felly mae'n ddiddorol ac yn gyffrous...a jyst i ddangos beth dwi wedi bod yn gwneud. Am y tri neu bedwar mis diwethaf, dwi wedi bod yn gweithio arni, felly nawr dwi'n gallu ei roi allan i'r byd mawr!" Yn ehangu ar ei broses creadigol, disgrifiodd Felix y broses o eni pob cân wrth chwarae o gwmpas ar ei gitâr, "ac fel hadau'n troi i blanhigion, fe wnaethon nhw tyfu'n rhy gymleth i gadw yn f'ymenydd...dyna pryd dwi'n dechrau recordio."
Mae'r albwm yn addo i arddangos lot fwy o ing ac enaid na cherddoriaeth blaenorol Year of the Dog ac mae'n cynnwys digonedd o unawdau trawiadol a thelynegiaeth deallus. Fe wnaeth Felix, sy'n chwarae gitâr a chanu yn y band, yn disgrifio teimlo fel nad oedd cerddoriaeth ei fand yn digon soffistigedig i gyflwyno fel ei brosiect terfynol. Rydyn ni sicr yn falch ei fod wedi newid ei feddwl!Gwnewch yn siwr na wnewch chi golli Year of the Dog yn Gwyl Awyrgylch CBCDC Gwener Mai 1 am 8pm. Cliciwch yma i wrando!

No comments:
Post a Comment