Fel rhan o'r ŵyl gwreiddiol (cyn rhyfeddod y sefyllfa bresennol), roedd Julia am gyflwyno yr ymddangosiad cyntaf o'i opera un-act clyfar, The Y Knot, a chafodd ei greu o dan arweiniad Michael McCarthy, Music Theatre Wales. Mae cysyniad Julia ar gyfer yr opera yn rhywbeth rydyn ni'n ffeindio'n hynod o ddiddorol! Wedi'i leoli o fewn y geiriadur, mae The Y Knot yn archwilio amlochredd Julia fel artist, ac mae'n arddangos nerth ei chyfansoddi a'i sgiliau fel librettydd. Wrth ddisgrifio'r defnydd clyfar o eiriau yn yr opera, dywedodd Julia, "mae yna ddeuol gyda'r eiriau, mae 'na hiwmor, mae'n eitha tebyg i chwedl mympwyol ar gyfer oedolion, ond mae'n cyffwrdd ar themau fel sut rydyn ni'n delio a shifftiau seismig yn ein amgylchiadau, iechyd meddwl ac ein tuedd i gredu newyddion ffug." Rydyn ni'n gyffrous iawn am y dydd (gobeithio'n fuan) pan allwn ni glywed, o'r diwedd, cynhyrchiad llawn o waith Julia!

Rydyn ni'n sicr y bydd Suite Julia yn melysu eich diwrnod! Peidiwch a'i golli! Tiwnich i mewn i Radio Atmospheres ar ddydd Sadwrn Mai 2, 5pm! Cliciwch yma i wrando!
No comments:
Post a Comment